ganolfan mewn gwyddor - gwybodaeth a chyfrifiadureg
Mae'r Ganolfan Rhwydwaith Cymorth Dysgu ac Addysgu ar gyfer Gwyddor Gwybodaeth a Chyfrifiadureg ( Learning and Teaching Support Network (LTSN) Centre for Information and Computer Science (LTSN-ICS)) yn cael ei chynnal gan Prifysgol Ulster mewn partneriaeth â Prifysgol Loughborough . Y partneriaethau eraill yn y Ganolfan yw Prifysgol Warwick , Prifysgol Heriot-Watt a Phrifysgol Metropolitanaidd Llundain.
Mae'r Ganolfan hon yn un ymhlith 24 o Ganolfannau Pynciol a ariennir gan yr Higher Education Funding Council for England , Scottish Higher Education Funding Council, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru - Higher Education Funding Council for Wales a'r Department of Education for Northern Ireland.
1. Cenhadaeth yr LTSN-ICS
Bwriad y Ganolfan yw "arwain y datblygiad mewn Gwyddor Gwybodaeth a Chyfrifiadureg (ICS) ymlaen i gyfnod o ddychymyg, datblygiadau newydd a rhagoriaeth yn y modd mae'r cwricwlwm yn cael ei gynllunio, ei ddatblygu a'i gyflwyno led-led y DU".
2. Hanes yr LTSN-ICS
Mae cyrff cyllido addysg uwch y DU wedi sefydlu LTSN i hyrwyddo dysgu ac addysgu o safon uchel ym mhob pwnc mewn addysg uwch. Bydd y rhwydwaith yn rhoi cefnogaeth i ddatblygu a throsglwyddo datblygiadau newydd ac arferion da gan ddarparu mewn un man bopeth sydd ei angen ar gyfer cefnogi dysgu ac addysgu mewn Addysg Uwch.
Mae'r Rhwydwaith yn cynnwys:
- 24 Canolfan Bynciol
- Canolfan Generig
- Canolfan Technolegau
- Gweithredwr a chyfarwyddwr rhaglen
Mae ffocws y rhaglen hon ar ddisgyblaethau ac mae hynny'n cydnabod mai ar lefel bynciol yn bennaf mae rhwydweithio a chyfnewid arferion a datblygiadau newydd yn digwydd mewn Addysg Uwch. Bydd y Canolfannau Pynciol yn darparu mannau cyswllt o fewn y cymunedau pynciol ac yn cyflwyno gwasanaeth rhagweithiol sy'n ymatebol i'w priod ddisgyblaethau.
3. Gweithgareddau Craidd
1. Dynodi a hyrwyddo'r datblygiadau newydd a'r arferion gorau mewn pedagogaeth.
2. Hyrwyddo integreiddio technegau TGCh addas er mwyn cyfoethogi'r dysgu, yr addysgu a'r asesu.
3. Adeiladu a chefnogi rhwydweithiau ar gyfer cyfnewid a lledaenu arbenigedd mewn perthynas â datblygiadau mewn dysgu ac addysgu.
4. Agor mynediadau rhithwir a rhanbarthol ar gyfer arbenigedd ac adnoddau a fydd yn annog a chryfhau grwpiau sydd â diddordebau arbennig yn lleol ac yn genedlaethol.
5. Gwneud y defnydd mwyaf o gyfleoedd ar gyfer rhannu gwybodaeth a gwerthuso'r hyn a gyflawnwyd ymhlith academyddion, llyfrgellwyr a chyfrifiadurwyr.
6. Creu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ar y cyd â'r ILT a'r cyrff proffesiynol.
Mae gwefan yr LTSN-ICS yn cynnwys yr adrannau canlynol:
TUDALEN
Cartref (http://www.ics.heacademy.ac.uk): yn darparu cysylltiadau i:
NEWYDDION
Anfonir newyddlen i'r ardal hon bob mis yn hysbysu aelodau y gymuned Gwyddor Gwybodaeth a Chyfrifiadureg o newyddion perthnasol o'r Ganolfan LTSN-ICS, y disgyblaethau ac erthyglau eraill sy'n berthnasol i'r gymuned Addysg Uwch.
DIGWYDDIADAU
Mae'r Ganolfan yn trefnu rhaglen helaeth o ddigwyddiadau er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol mewn dysgu ac addysgu o fewn y gymuned ICS. Yn ogystal â digwyddiadau rhanbarthol, gweithdai a chynhadledd flynyddol amlwg ceir rhaglen o weithgareddau ar y We sy'n galluogi unigolion drwy'r gymuned gyfan i gymryd rhan a rhyngweithio.
Mae'r adran hon yn rhoi rhestr o ddigwyddiadau LTSN-ICS a digwyddiadau eraill sy'n berthnasol i'r gymuned a hefyd mae cyfleuster sy'n galluogi defnyddwyr i fewnbynnu gwybodaeth am ddigwyddiadau perthnasol.
ADNODDAU
Mae'r adran hon yn darparu mynediad parod i adnoddau cyffredinol, canllawiau ynghylch adnoddau pwnc a COA (FAQ) sy'n berthnasol i aelodau'r gymuned ICS ac mae hefyd yn cysylltu â'r adran sy'n adolygu llyfrau.
CYHOEDDIADAU
Mae'r adran hon yn cynnwys ein E-Gylchgrawn 'ITALICS' , gyda chanllawiau ar gyfer cyflwyno, ac ystod eang o drafodaethau a deunydd cyflwyniadau a geir o ddigwyddiadau LTSN-ICS.
CYSYLLTIADAU
Yma ceir amlinelliad o fanylion cyswllt ar gyfer staff y Ganolfan.
CHWILIAD
Mae'r cyfleuster hwn yn eich galluogi i wneud chwiliad llawn o'r holl ddeunydd sydd ar wefan LTSN-ICS.
Cysylltiadau i Gyrsiau Cyfrifiadureg a Gynigir trwy gyfrwng y Gymraeg